Mercator > Symposiwm Rhyngwladol Mercator
V Symposiwm Rhyngwladol Mercator
“Hawliau Ieithyddol fel rhan o Gynhwysiad Cymdeithasol”
Hydref 19-21, 2006
Institut d'Estudis Catalans (IEC), Barcelona
Mercator-Legislatión, CIEMEN (Barcelona, Catalunya)
GorolwgCyfandir amlieithog fu Ewrop erioed. Amlygwyd hyn yn gynyddol yn y degawdau diwethaf drwy i bobl o gyfandiroedd eraill ymsefydlu yma a dod â’u hieithoedd gyda hwy. Mae sefyllfa ieithyddol Ewrop o’r herwydd yn gyfoethocach ac yn fwy cymhleth nac erioed.
Fel prosiect gwleidyddol, economaidd a diwylliannol sydd yn parhau i ddatblygu a newid ac sydd yn ceisio arfer y cysyniad democrataidd o uno pobl Ewrop drwy barchu amrywiaeth, mae’r Undeb Ewropeaidd yn byw’r sefyllfa hon i’r eithaf.
Yn y broses o’i greu ei hun, mae’n rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ymdrin â materion yn ymwneud ag ymfudo a chynhwysiad cymdeithasol pobl o gyfandiroedd eraill sydd wedi ymfudo, sydd yn cynrychioli canrannau sylweddol o’r boblogaeth mewn nifer o ardaloedd.
Mae’r ieithoedd a siaredir yn yr Undeb Ewropeaidd – y rhai a ystyrid yn draddodiadol yn Ewropeaidd ynghyd â’r rhai a ddaeth yn sgil ymfudo – yn allweddol i wneud “undeb mewn amrywiaeth” i’r holl ddinasyddion, grwpiau a chymunedau sydd yn byw gyda’i gilydd yn Ewrop yn bosib. Er mwyn hybu cytgord o’r fath, rhaid inni ofyn inni’n hunain sut fath o amlieithrwydd y dylai’r Undeb Ewropeaidd ei roi ar waith nawr ac yn y dyfodol. Ar yr un pryd, mae’n codi’r cwestiwn sut gellir rheoleiddio a gwarantu hawliau ieithyddol ymfudwyr a’r cymunedau sy’n eu croesawu, ac yn fwy penodol, sut gall gweithredu’r hawliau hyn hyrwyddo cynhwysiad cymdeithasol newydd-ddyfodiaid sydd yn ymsefydlu mewn cymunedau ieithoedd lleiafrifol sydd yn rhannu eu gofod gydag ieithoedd goruchafol neu fwyafrifol.
Symposiwm
Fe fydd Ved Symposiwm Rhyngwladol Mercator yn cynnig dadansoddiad beirniadol o’r materion o dan sylw gan gymryd fel man cychwyn hanfodol barch at hawliau pawb. Bydd hefyd yn pwysleisio rôl iaith fel ffactor o gynhwysiad mewn cymunedau yn yr Undeb Ewropeaidd a chanddynt ieithoedd lleiafriol.
Fe fydd y Symposiwm hefyd yn cynnig cyfres o arferion da i gydbwyso hawliau unigolyddol a hawliau torfol siaradwyr ieithoedd ymfudol a siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ogystal, mae’n anelu at gasglu cynigion sy’n hyrwyddo ymlyniad cymdeithasol y cymunedau sy’n derbyn mewnfudwyr ar yr un pryd ag atgyfnerthu amrywiaeth ieithyddol sy’n rhydd o gamwahaniaethu. Mewn cynigion o’r fath, rhoddir pwyslais ar yr agweddau deddfwriaethol a all gyfrannu at fynd â hawliau ieithyddol ymlaen.